Cover Image for Deallusrwydd Artiffisial ac Awtomeiddio ar gyfer Cynnydd Effeithiolrwydd
Cover Image for Deallusrwydd Artiffisial ac Awtomeiddio ar gyfer Cynnydd Effeithiolrwydd
Hosted By

Deallusrwydd Artiffisial ac Awtomeiddio ar gyfer Cynnydd Effeithiolrwydd

Hosted by ProMo Cymru
Zoom
Registration
Approval Required
Your registration is subject to approval by the host.
Welcome! To join the event, please register below.
About Event

Mae gennym gyfle cyffrous i sefydliadau trydydd sector Cymru ymuno â ni ar her ddylunio. 

Byddwn yn edrych ar sut gall digidol wella’r gwasanaeth rydych yn ei ddarparu i’ch defnyddwyr drwy ddilyn y broses Darganfod, Diffinio, Datblygu. 

💡Nodau  

  • Yn darparu'r wybodaeth a'r sgiliau i gyfranogwyr roi datrysiadau digidol ar waith wrth ddilyn dull ystwyth sydd yn canolbwyntio ar y defnyddiwr.

  • Hysbrydoli i gymryd mantais o ddulliau digidol i arbed amser a macsimeiddio'r effaith gymdeithasol. 

🧑‍🏫 Deilliannau dysgu 

Yn ystod y cwrs, bydd cyfranogwyr yn: 

  • Cael cyfle i ddatrys her go iawn mae eu sefydliad yn wynebu 

  • Neilltuo amser a gofod i brofi ffyrdd newydd o weithio 

  • Dysgu pethau newydd am eu heriau a'u hanghenion sefydliadol 

  • Derbyn mentora ac arweiniad gan arbenigwyr digidol 

  • Dysgu sut i weithredu adnoddau digidol yn effeithiol, gan ddilyn y broses Cynllunio Gwasanaeth 

  • Arbrofi gydag adnoddau digidol newydd 

  • Cael mynediad at adnoddau

Anogir dau berson o bob sefydliad i fynychu'r cwrs (er nad yw'n hanfodol). Mae angen i bob person gofrestru'n unigol.

📅  Strwythur y cwrs  

Dros yr 8 wythnos, bydd angen cadw tri dyddiad yn rhydd yn eich calendr. 

Cyfnod Darganfod 

1. Gweminar Cyflwyno: 1 Hydref, 2 yb - 5 yp [AR-LEIN]. 

  • Bydd y cwrs yn dechrau gyda gweminar hanner diwrnod lle byddwch yn cael eich cyflwyno i'r fethodoleg dylunio gwasanaeth, sut beth yw'r broses, a sut i ddeall anghenion defnyddwyr yn well. 

  • Yna bydd gennych bedair wythnos i gwblhau darn o ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall ble y gallech fod yn arbed amser. Awgrymir i chi ganiatáu 2-3 awr yr wythnos i gwblhau'r ymchwil yma.

Cyfnod diffinio 

2. Gweithdy Prototeipio

  1. 30ain Hydref 9:30 yb - 4:30 yp, Caerfyrddin [WYNEB YN WYNEB]

neu

  1. 31ain Hydref 9:30 yb - 4:30 yp, Caerdydd [WYNEB YN WYNEB]

  • Yn y gweithdy wyneb i wyneb rhyngweithiol yma, byddech yn cael eich tywys trwy weithgareddau i ddiffinio maes i ganolbwyntio arno ac archwilio ffyrdd y gall AI ac awtomeiddio arbed amser i chi. Byddech yn llunio cynllun o sut yr ewch ati i brofi eich syniad arbed amser a chasglu'r canlyniadau.

  • Rydym wedi trefnu dau weithdy prototeipio i gyrraedd eich anghenion. Dim ond un o'r rhain sydd yn rhaid i chi fynychu. Penderfynwch pa ddyddiad sydd orau a pa ardal sydd yn haws i chi deithio yno. Bydd pob sesiwn yn union yr un peth, ond mewn lleoliadau gwahanol.

Byddem yn ad-dalu costau teithio. Cysylltwch â lucyp@promo.cymru i drefnu hyn yn dilyn y gweithdy prototeipio.

Cyfnod datblygu 

Bydd gennych bedair wythnos i brofi eich ateb a chasglu canlyniadau. 

3. Sesiwn cloi: 5ed Rhagfyr, 10yp - 12yb [AR-LEIN

  • Ar ddiwedd yr wyth wythnos, byddwch yn cymryd rhan mewn gweminar i rannu’r hyn rydych wedi’i ddysgu drwy gydol y cwrs a byddwch yn dathlu’r hyn rydych wedi’i gyflawni. 

Tasgau hunan-astudio 

Rhwng y sesiynau, byddwch yn cael eich arwain drwy gyfres o weithgareddau y gallwch eu cwblhau yn eich amser eich hun. 

Rydyn ni’n argymell eich bod yn caniatáu 2-3 awr yr wythnos ar gyfer y cwrs. 

Cyfarfodydd mentora gyda hyfforddwyr 

Byddech chi hefyd yn cael 2 (neu fwy os hoffech) cyfarfod mentor awr o hyd gyda'r hyfforddwyr i sicrhau eich bod chi ar y trywydd cywir ac i'ch cefnogi gyda'r prosiect. 

Dim yn siwr?

Os ydych chi’n ansicr am gofrestru i’r cwrs llawn, cofrestrwch am ein sesiwn blasu.

🌟  Ar gyfer pwy mae’r cwrs yma? 

Mae’r cwrs yma ar gyfer Sefydliadau Trydydd Sector sydd wedi’u lleoli yng Nghymru neu sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru.

Anogir dau berson o bob sefydliad i fynychu'r cwrs, er nad yw'n hanfodol. Mae angen i bob person gofrestru'n unigol. 

Mae’r cwrs yma wedi'i anelu at sefydliadau sydd ar gychwyn eu siwrne AI. Nid oes angen profiad blaenorol o ddefnyddio AI, ond bydd rhaid i un aelod o'ch tîm fod â sgiliau digidol sylfaenol.

🚀 Beth ydy Newid?  

Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo Cymru, Cwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol

💰  Sut mae’r cwrs yma’n cael ei ariannu? 

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r cwrs yma trwy'r rhaglen Newid

​Diolch yn fawr.

Hosted By