Gweithdy Deallusrwydd Artiffisial ac Awtomeiddio ar gyfer Cynnydd Effeithiolrwydd: SESIWN BLASU
Mae'r gweminar yma yn rhan o gwrs 8 wythnos sydd yn canolbwyntio ar sut gall AI ac Awtomeiddio helpu eich sefydliad wrth arbed amser. Yn y cwrs yma byddem yn eich cefnogi i ymchwilio, profi a gwerthuso sut gall yr adnoddau arbed amser yma eich buddio chi. Mae croeso i chi gofrestru ar gyfer y cwrs llawn, neu ddod i'r gweminar cyflwyno yn unig.
🎯 Nod y gweminar:
Yn y gweminar yma byddech yn derbyn cyflwyniad i:
Ddeallusrwydd artiffisial a sut gellir ei ddefnyddio yn y Trydydd Sector.
Y fethodoleg cynllunio gwasanaeth
Sut beth yw'r broses
Sut i ddeall anghenion defnyddwyr eich gwasanaeth
🌟 Ar gyfer pwy mae’r gweminar yma?
Mae'r cwrs yma yn rhad ac am ddim i Sefydliadau'r Trydydd Sector yng Nghymru.
💡 Eisiau symud ymlaen i'r cwrs llawn?
Os hoffech fynd ymlaen i gwblhau'r cwrs llawn ar ôl y sesiwn yma, mae croeso i chi wneud hynny! E-bostiwch lucyp@promo.cymru a bydd Sarah yn cysylltu'n ôl yn fuan. Os hoffech gofrestru i'r cwrs llawn nawr, defnyddiwch y ddolen yma.
🚀 Beth ydy Newid?
Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo Cymru, Cwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
💰 Sut mae’r cwrs yma’n cael ei ariannu?
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r cwrs yma trwy'r rhaglen Newid.