

Cwrs Hyfforddiant Undydd AM DDIM: Deallusrwydd Artiffisial i'r Trydydd Sector yng Nghymru
Rydym eisoes wedi clywed gennych am yr effaith niweidiol mae hen systemau, prosesau aneffeithlon, a gofynion adrodd helaeth yn ei gael ar sefydliadau.
Yn ein cwrs wyneb i wyneb undydd am ddim, byddem yn archwilio sut gall Deallusrwydd Artiffisial (AI) eich cefnogi i symleiddio gweithgareddau, gwella effeithiolrwydd, a chreu amser i chi weithio ar ddarparu eich gwasanaethau craidd. Byddem yn rhoi'r wybodaeth i chi fedru gwneud penderfyniadau gwybodus a hyderus am yr hyn sydd yn fuddiol i'ch sefydliad, a datblygu'r sgiliau i wneud hynny.
🧑🏫 Deilliannau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs, bydd cyfranwyr yn:
Ennill dealltwriaeth ddyfnach o AI, ei hanes, cyfleoedd, yn ogystal â'i gyfyngiadau, anfanteision ac ystyriaethau moesegol
Teimlo'n hyderus yn integreiddio adnoddau AI o fewn eu sefydliad
Deall sut i gadw'n gyfoes gyda holl ddatblygiadau sydyn AI
Gan fod niferoedd yn gyfyngedig, byddem yn cynnig un lle i bob sefydliad.
🎬 Agenda
25ain Mawrth, 9:30 yb - 4:30 yp
Beth yw AI?
AI yn y trydydd sector: astudiaethau achos (rhan 1)
Cinio
AI yn y trydydd sector: astudiaethau achos (rhan 2)
Asesiad risg, moeseg a defnydd cyfrifol
Goblygiadau'r dyfodol
Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal wyneb i wyneb yng Nghaerdydd. Byddem hefyd yn darparu cinio a lluniaeth yn ystod y dydd.
Rydym yn awyddus i'r cwrs fod mor hygyrch â phosib i gymaint â phosib, felly gallem ad-dalu costau teithio os ydych yn teithio o rywle y tu hwnt i Dde Cymru. Cysylltwch â lucyp@promo.cymru i drefnu hyn yn dilyn y cwrs a sicrhau eich bod yn cadw unrhyw dderbyneb.
🌟Ar gyfer pwy mae'r cwrs yma?
Mae’r cwrs yma ar gyfer Sefydliadau Trydydd Sector wedi’u lleoli yng Nghymru neu sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru.
Mae'r cwrs wedi'i anelu at sefydliadau sydd ar gychwyn eu taith AI. Nid oes rhaid i chi fod ag unrhyw brofiad blaenorol o ddefnyddio AI, ond bydd angen ychydig o sgiliau digidol canolradd.
Rydym yn awyddus i weithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau trydydd sector ledled Cymru felly byddem yn mynd drwy broses o ddewis.
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n cael eich derbyn ar y garfan hon, cynhelir y cwrs eto yn y dyfodol. Os hoffech glywed am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddiant tebyg am ddim, yna cofrestrwch i'n cylchlythyr.
Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.
🧰 Gofynion y Cwrs
Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau o'r cwrs, gofynnwn y canlynol ohonoch:
Ymrwymo i fynychu cyfnod llawn yr hyfforddiant
Dod â chyfrifiadur gyda chi i gyfrannu mewn gweithgareddau ymarferol
Rhoi gwybod ar y ffurflen gofrestru wrth i chi archebu lle os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol
E-bostio lucyp@promo.cymru os na allech chi fod yn bresennol
🚀 Beth yw Newid?
Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo Cymru, Cwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
Gwybodaeth bellach am ein gwaith ar ein gwefan.
💰 Sut mae’r cwrs yma’n cael ei ariannu?
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r cwrs yma trwy'r rhaglen Newid.
Diolch yn fawr.