Gweminar GCG: Ymgysylltu a Chyfathrebu Strategol / IPG Webinar: Strategic Engagement and Communications
↓ Scroll down for English ↓
Gweminar: Creu cysylltiadau cryfach rhwng Gwaith Ieuenctid a rhannau eraill o'r system Addysg
Cyflwynir y gweminar hon gan y Grŵp Cyfranogiad Gweithredu Ymgysylltu a Chyfathrebu Strategol (GCGTChS), un o bum grŵp sefydlwyd i gefnogi gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.
Roedd un o'r argymhellion yn yr adroddiad ‘Mae'n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru’ yn canolbwyntio ar rôl y partneriaethau darparu rhanbarthol i gefnogi darpariaeth leol. Er mwyn cefnogi cynnydd yn y maes yma, mae rhwydwaith o gynrychiolwyr o'r sector gwaith ieuenctid wedi mynegi diddordeb i weithio'n agosach gyda'r Sector Addysg a'u Grwpiau Plant a Phobl Ifanc i greu gwell dealltwriaeth o anghenion pobl ifanc, sut mae gwasanaethau yn ymateb i'r anghenion yma yn bresennol, ac adnabod cyfleoedd i feithrin cysylltiadau pellach rhwng gwasanaethau.
Rydym yn awyddus i ddeall yn well y pethau da sydd yn digwydd ar draws Cymru a helpu llywio sut mae'r argymhelliad yma ac agweddau eraill o'n gwaith, fel y gwaith cysylltiedig gyda Byrddau Partneriaeth Ranbarthol (BPRh), yn cael ei ddatblygu.
Yn y gweminar yma, byddem yn amlygu'r pwysigrwydd o waith Ieuenctid ac addysg yn gweithio law yn llaw ac yn cynnwys enghreifftiau o arferion da gan weithwyr proffesiynol yn y sector. Byddem hefyd yn rhannu i ystafelloedd trafod llai i edrych ar gyfleoedd rhwng y gwasanaethau ieuenctid a'r sector addysg yng Nghymru yn y dyfodol ac yn defnyddio mapio siwrne ac astudiaethau achos.
Mae'r cyflwynwyr yn cynnwys:
Deb Austin – Cadeirydd y GCGTChS
Sian Tomos – Is-gadeirydd y GCGTChS
Millie Boswell – Arweinydd Gweithredu NYTH / NEST Llywodraeth Cymru
Kirsty Williams – Cadeirydd BPRh Powys ac Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Emma Chivers - Cynghorydd Gwaith Ieuenctid i'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru (AGAA)
Mark Isherwood – Cyfarwyddwr ar Gyfer Datblygu Arweinyddiaeth a Sicrhau Ansawdd, AGAA
Croesawir y bobl sydd yn ymwneud â gwaith ieuenctid yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn dysgu mwy a chyfrannu i'r drafodaeth yma. Cofrestrwch am ddim heddiw.
Bydd cyfieithu ar y pryd o Gymraeg i Saesneg a BSL ar gael ar y dydd.
WEBINAR: Building Stronger links between Youth Work and other parts of the Education system
This webinar is presented by the Strategic Communication and Engagement Implementation Participation Group (SCEIPG), one of five groups established to support the work of the Youth Work Strategy Implementation Board.
One of the recommendations within the 'Time to deliver for young people in Wales' report focuses on the role of regional delivery partnerships to support local delivery. To support progress in this area, a network of representatives from the youth work sector have expressed an interest in working more closely with Education Sector and their Children and Young People’s Groups to build a better understanding of the needs of young people, how services currently address those needs and identifying opportunities to foster further links between services.
We want to better understand the good things that are happening across Wales and help inform how this recommendation, and other aspects of our work, such as the connected work with Regional Partnership Boards (RPB) are developed.
In this webinar, we will highlight the importance of Youth work and education working hand in hand and include examples of good practice from professionals in the sector. We will also break into discussion groups to examine future opportunities between the youth services and education sector in Wales using journey mapping and case studies.
Presenters include:
Deb Austin - Chair of the SCEIPG
Sian Tomos – Vice Chair of the SCEIPG
Millie Boswell – NYTH / NEST Implementation Lead Welsh Government
Kirsty Williams – Chair of Powys RPB and Vice Chair of Powys Teaching Health Board
Emma Chivers - Youth Work Advisor for the National Academy for Educational Leadership (NAEL)
Mark Isherwood – Director for Leadership Development and Quality Assurance, NAEL
We welcome those involved in youth work in Wales who are interested in learning more and contributing to this discussion. Sign up free today.
Welsh to English and BSL interpretation will be available on the day.