Macmillan Information Champions | 11.09.24 12pm-3pm | Hyrwyddwyr Gwybodaeth Macmillan
Dod yn Hyrwyddwr Gwybodaeth Macmillan
11 Medi 2024 | 12 pm - 3 pm | Caerdydd
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Amcan
Yn dilyn gwaith ymchwil ledled Cymru, canfu bod unigolion sy’n cael diagnosis o ganser eisiau gofyn cwestiynau i rywun dibynadwy yn eu cymuned, lle gallant ddod o hyd i wasanaethau cymorth a gwybodaeth am ganser. Gan weithio mewn partneriaeth â Gofal Canser Macmillan, mae CGGC wedi dylunio’r cwrs hwn i chi fod yr unigolyn hwnnw.
Cynnwys
Yn dilyn gwaith ymchwil sylweddol yn y gymuned, canfu nad yw llawer o bobl yn ymwybodol o’r gwasanaethau cymorth a gwybodaeth am ganser sydd ar gael iddyn nhw ac aelodau eu teulu pan fyddant yn cael diagnosis. Trwy weithio mewn partneriaeth â Macmillan, mae CGGC yn gwneud pobl broffesiynol yn y gymuned yn ymwybodol o’r adnoddau sydd ar gael, fel eu bod yn gwybod i ble i anfon eu defnyddwyr gwasanaethau os bydd angen cymorth arnynt. Bydd y bobl hyn yn cael eu galw’n Hyrwyddwyr Gwybodaeth Macmillan. Mae’r rhaglen hon yn cael ei threialu yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ddechrau.
Deilliannau dysgu
Bydd cyfranogwyr yn ymwybodol o’r gwasanaethau cysylltiedig â chanser sydd ar gael o fewn eu cymunedau fel y gallant gyfeirio pobl yn effeithiol ac yn effeithlon.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Unigolion sy'n gweithio gyda phobl mewn lleoliad cymunedol yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Become a Macmillan Information Champion
11 September 20
11 September 2024 | 12 pm - 3 pm | Cardiff
Delivered through the medium of English
Aim
Following research across Wales, it has been found that individuals diagnosed with cancer want to be able to ask a trusted person in their community, where they can find cancer information and support services. Working in partnership with Macmillan Cancer Care, WCVA have designed this course for you to be that person.
Content
Following significant research in the community, it has been found that many persons are unaware of the cancer information and support services which are available for them and family members at point of diagnosis. Working in partnership with Macmillan WCVA are making professionals in the community aware of the resources available, so if any of their service users need support they know where to send them. These individuals will be known as Macmillan Information Champions. This programme is initially being trialed in the Cardiff and Vale Health Board and Betsi Cadwaladr Health Board areas.
Learning outcomes
Participants will be aware of the services associated to cancer which are available within their community to signpost people efficiently and effectively.
Who the course is for?
Individuals working with people in a community setting within Cardiff and The Vale Health board and Betsi Cadwaladr Health board areas.