


Webinar: Income generation health check | 03.11.25 | Gweminar: Prawf iechyd cynhyrchu incwm
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Mae gan ymddiriedolwyr gyfrifoldeb allweddol dros sicrhau cynaliadwyedd ariannol eu mudiad. Bydd cynnal ‘Prawf Iechyd’ ar eich mudiad yn eich helpu i weld eich sefyllfa bresennol mewn perthynas â hyn, a nodi unrhyw fylchau a meysydd i’w datblygu. Waeth a ydych chi, fel ymddiriedolwr, yn ymwneud yn uniongyrchol â chynhyrchu incwm neu’n goruchwylio gwaith aelodau staff yn y maes hwn, bydd y sesiwn hon yn eich cynorthwyo i ystyried a oes gennych chi’r polisïau, y gweithdrefnau a’r gweithgareddau yn eu lle i gyflawni gwir botensial cynhyrchu incwm eich mudiad. Ymunwch â ni i ystyried beth allai a dylai prawf iechyd ei gynnwys, sut gallwch gynnal un ar eich mudiad ac o ble gallwch ddod o hyd i adnoddau i gefnogi hyn.
Delivered through the medium of English
Trustees have a key responsibility in ensuring their organisation’s financial sustainability. Performing ‘health checks’ on your organisation will help you establish your current position in relation to this, and identify any gaps and areas for development. Whether as a trustee you’re directly involved in income generation or supervise staff members’ work in this area, this session will support you to consider whether you have the policies, procedures, and activities in place to optimise the income generating potential of your organisation. Join us to consider what a health check could and should include, how you can perform one for your organisation and where you can find resources to support this.
