Cover Image for Gweminar Y Gymraeg / Welsh Language Webinar
Cover Image for Gweminar Y Gymraeg / Welsh Language Webinar
Hosted By
63 Going

Gweminar Y Gymraeg / Welsh Language Webinar

Hosted by ProMo Cymru
Zoom
Registration
Past Event
Welcome! To join the event, please register below.
About Event

English below

GWEMINAR - Cynyddu nifer y gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyflwynir y gweminar yma gan y Grŵp Cyfranogiad Gweithredu Y Gymraeg, un o bum grŵp sefydlwyd i gefnogi gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

​Un o brif argymhellion yr adroddiad Mae'n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru oedd y “Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu nifer y gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Dylai hefyd sicrhau mai un o flaenoriaethau allweddol y Corff Cenedlaethol fydd hyrwyddo gwasanaethau gwaith ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Rydym yn awyddus felly i ddarganfod mwy am y pethau da sydd yn digwydd ledled Cymru yn ogystal â’r heriau sy’n wynebu’r sector fel y gall cyfrannu at ddatblygiad yr argymhelliad yma, ac agweddau eraill o'n gwaith.

​Byddem yn rhannu'r gwaith sydd yn digwydd ar lefel cenedlaethol yn y gweminar yma, llawer ohono yn newydd ac yn parhau i ddatblygu. Byddem yn trafod y blaenoriaethau a osodwyd ar gyfer y gwaith a'r camau nesaf.

Uchelgais GCG Y Gymraeg yw gweld fframwaith strategol yn datblygu a fyddai’n amlinellu’n  glir sut y byddai trawstoriad o sefydliadau yn cynllunio’n bwrpasol er mwyn cynyddu nifer y gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg​. Rydym eisiau clywed felly gan amrywiaeth o sefydliadau er mwyn parhau i ddatblygu’r drafodaeth hon.

Rhennir esiamplau o ymarfer gorau a phrofiadau wrth ymateb i heriau yn ystod y gweminar, ac rydym yn awyddus i gasglu tystiolaeth bellach i gefnogi’r  gwaith yma.

Mae'r cyflwynwyr yn cynnwys:

  • Lowri Jones, Menter Iaith Sir Caerffili - Cadeirydd GCG Y Gymraeg

  • ​Iestyn Wyn, Llywodraeth Cymru

  • ​Prosiect CFTi – Cyngor Dinas Caerdydd, Menter Caerdydd a’r Urdd

  • ​GISDA

  • ​Urdd Gobaith Cymru

​Bydd ail ran y gweminar yn cynnwys gweithdai mewn grwpiau llai i drafod y canlynol:

  • Sut gallwn gynllunio’n strategol, fel partneriaid, i gynyddu gwaith ieuenctid trwy gyfrwng y Gymraeg

  • ​Beth yw rhai o'r cyfleoedd a’r rhwystrau posib?

​Croesawir Cyfarwyddwyr, Cydlynwyr, Penaethiaid Gwasanaethau a Phrif Weithredwyr sefydliadau sydd yn rheoli a chynllunio gwaith ieuenctid yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn dysgu mwy a chyfrannu i'r drafodaeth yma. Cofrestrwch heddiw. 

Bydd cyfieithu ar y pryd o Gymraeg i Saesneg ar gael ar y dydd. Gallem drefnu BSL ar gais. Bydd y gweminar yn cael ei recordio.

-------------

WEBINAR - Increasing the number of youth work services available through the medium of Welsh 

This webinar is presented by the Welsh Language Implementation Participation Group, one of five groups established to support the work of the Youth Work Strategy Implementation Board.

​One of the key recommendations within the 'Time to deliver for young people in Wales' report was that "The Welsh Government should increase the availability of youth work services through the medium of Welsh. It should also ensure that promoting youth work through the medium of Welsh is a key priority for the national body".

We want to discover the good practices happening across Wales and the sector's challenges. This will contribute to developing this recommendation and other aspects of our work.

In this webinar, we will share some of the work happening on a national level, many of which are new and continuing to be developed. We will discuss the priorities that were put in place for the next steps.

The Welsh Language IPG wants to see a strategic framework being developed that clearly sets out how a cross-section of organisations will purposely plan to increase the number of youth work services available through the medium of Welsh. Therefore, we want to hear from various organisations to develop this conversation further.

During this webinar, we will share examples of good practice and experiences whilst responding to the challenges, and we are eager to collect further evidence to support this work.

Presenters include:

  • Lowri Jones, Menter Iaith Sir Caerffili - Chair of the Welsh Lanuage IPG

  • ​Iestyn Wyn, Welsh Government

  • ​CFTi Project – Cardiff City Council, Menter Caerdydd and Urdd

  • ​GISDA

  • ​Urdd Gobaith Cymru

The second part of the webinar will include break-out workshops where we will discuss the following:

  • As partners, how can we plan strategically to increase Welsh medium youth work?

  • What are some of the possible opportunities and barriers?

We welcome Directors, Co-ordinators, Heads of Services, and Chief Executives of organisations that manage and plan youth work in Wales who are interested in learning more and contributing to this discussion. Sign up free today.

Welsh to English interpretation will be available on the day. BSL can be arranged if requested. The webinar will be recorded.

Hosted By
63 Going