


Adnoddau i wella gwaith tîm digidol | Tools to improve digital teamwork - Sesiwn Gymraeg
Please Scroll for English
Amcanion
Mae’r sesiwn hon yn edrych ar sut gallwch ddefnyddio adnoddau digidol i gefnogi gwaith tîm yn eich mudiad. Trwy arddangosiadau ymarferol, byddwn yn edrych ar sut gall yr adnoddau hyn wella cyfathrebu a chydweithio, gan alluogi timau i gadw mewn cysylltiad a gweithio’n effeithlon mewn gweithleoedd hybrid.
Cynnwys
Hanfodion cyfathrebu a chydweithio digidol
Awgrymiadau ar adeiladu a chynnal timau effeithiol ar-lein
Prif nodweddion a swyddogaethau adnoddau cyfathrebu a chydweithio poblogaidd.
Bydd yr adnoddau a ddefnyddir yn y sesiwn hon yn cynnwys:
Microsoft Sharepoint, Microsoft Planner a ToDo, Power Automate ac eraill.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Mae’r cwrs hwn i staff y sector gwirfoddol neu wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am sut gall adnoddau digidol gwahanol gefnogi eu gwaith. Mae’r cwrs hwn yn arbennig o addas i bobl:
Sy’n defnyddio Microsoft 365 yn eu gweithle
Sy’n defnyddio adnoddau digidol yn eu gwaith bob dydd – fel e-bost, cyfarfodydd rhithwir a meddalwedd swyddfa
A hoffai wella eu cyfathrebu a/neu gydweithio digidol
Sydd â diddordeb mewn edrych ar, a dysgu am adnoddau a thechnolegau digidol
Efallai eich bod yn gofyn rhai o’r cwestiynau canlynol:
Sut gallwn ni gyfathrebu’n well yn fewnol?
Pa adnoddau all fy helpu i a’m cydweithwyr i weithio ar brosiectau gyda’n gilydd?
Sut rydym yn cydweithio fel tîm hybrid/o bell?
Os nad ydych chi’n siŵr a yw’r cwrs hwn ar y lefel gywir i chi, cysylltwch â digidol@wcva.cymru
Ymunwch â’r sesiwn hyfforddi hon ar liniadur neu gyfrifiadur personol oherwydd bydd cyfle i brofi’r adnoddau yn y sesiwn.
Yr hyfforddwr
Cyflwynir yr hyfforddiant gan Big Learning Company, Mae’r hyfforddiant yma yn rhan o Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector.
Cyflwynir y sesiwn hon yn Gymraeg. Mae’r sesiwn Saesneg yma.
Aim
This session explores how you can use digital tools to support teamwork in your organisation. Through hands-on demonstrations, we will explore how these tools can improve communication and collaboration, enabling teams to stay connected and work efficiently in hybrid workplaces.
Content
Fundamentals of digital communication and collaboration.
Tips for building and maintaining effective teams online.
Key features and functionalities of popular communication and collaboration tools.
Tools Used in This Session Include:
Microsoft Teams, Padlet, Sway and others.
Who is this course for?
This course is for voluntary sector staff or volunteers who are interested in learning more about how different digital tools can support their work. This course is most suitable for people who:
Use Microsoft 365 in their workplace.
Use digital tools in their day to day work – like email, virtual meetings and office software.
Would like to improve their digital communication and/or collaboration.
Interested in exploring and learning about digital tools and technologies.
Some questions you might be asking are:
How can we communicate better internally?
What tools can help me and my colleagues work on projects together?
How do we work collaboratively as a hybrid/remote team?
If you’re unsure whether this course is pitched at the right level for you, please contact digital@wcva.cymru
Please join this training session on a laptop or PC as there will be an opportunity to test out the tools in the session.
The Trainer
This training is delivered by Big Learning Company and is part of Newid: Digital for the Third Sector.
This session is given in Welsh. Find the English session here.
