gofod3 - General admission | Mynediad cyffredinol
Bydd y sesiynau yn llenwi’n gyflym, felly byddem yn eich cynghori i gadw lle cyn gynted ag y bydd rhywbeth yn dal eich sylw.
Sessions fill up fast, so we advise that you book as soon as you see something that catches your eye.
Mae cyfarfod blynyddol CGGC ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru yn ôl yng Nghaerdydd.
Mae’r digwyddiad yn gyfle gwych i ddysgu o’n gilydd a rhannu syniadau – drwy ddod i un o’r lliaws o sesiynau yn ein rhaglen lawn dop, ymlwybro drwy’r gofod arddangos yn siarad â stondinwyr neu gymryd sedd a sgwrsio â hen ffrind dros baned, mae hwn yn gyfle gwirioneddol unigryw i wneud newidiadau i’ch mudiad.
Treuliwch ddiwrnod o’r ddesg yn rhwydweithio a datrys problemau gyda mwy na 600 o ymwelwyr eraill o elusennau a grwpiau gwirfoddol blaenllaw o bob rhan o Gymru.
Gallwch ddefnyddio eich amser yn gofod3 yn dysgu sgiliau a gwybodaeth newydd, dweud eich dweud ar bynciau llosg neu’n crwydro o gwmpas y lliaws o sesiynau defnyddiol a pherthnasol a gaiff eu curadu gan CGGC mewn partneriaeth â’r sector. Mae’r rhaglen lawn o arddangoswyr a digwyddiadau i’w gweld nawr ar wefan gofod3. Bydd y sesiynau yn llenwi’n gyflym, felly byddem yn eich cynghori i gadw lle cyn gynted ag y bydd rhywbeth yn dal eich sylw.
gofod3 yw ein gofod ni i ysbrydoli, ysgogi ac arloesi. Peidiwch â cholli’r cyfle unigryw hwn i feddwl, dysgu a chydweithio gyda’ch cyfoedion yn y sector gwirfoddol.
WCVA’s annual get-together for the voluntary sector in Wales is back in Cardiff.
The event is a great opportunity to learn from each other and share ideas – by attending one of the many sessions in our jam-packed programme, cruising around our bustling exhibition space talking to the stallholders or just grabbing a coffee and a seat with an old friend. It truly is a one-off opportunity to make change happen for your organisation.
Spend a day away from the desk networking and problem solving with more than 600 other visitors from leading charities and voluntary groups from across Wales.
You can use your time at gofod3 to learn new skills and knowledge, have your say on hot topics or just cruise around the many useful and topical sessions curated by WCVA in partnership with the sector. The full programme of exhibitors and events is now available to view on the gofod3 website. Sessions fill up fast, so we advise that you book as soon as you see something that catches your eye.
gofod3 is our space to inspire, motivate and innovate. Don’t miss out on this unique opportunity to think, learn and collaborate with your peers in the voluntary sector.