Gweithdy Cyflwyno Cynllunio Gwasanaethau Digidol: Rhan Un a Dau
Mae'r dudalen digwyddiad yma i gofrestru ar gyfer y gweminar cyflwyno (Rhan Un) a'r cwrs llawn (Rhan Dau).
Rhan Un
🎯 Nod y gweminar:
Yn y gweminar yma byddech yn derbyn cyflwyniad i:
Y fethodoleg cynllunio gwasanaeth
Sut beth yw'r broses
Sut i ddeall anghenion defnyddwyr eich gwasanaeth
Cynhelir y gweminar yma ddwywaith, un ar 4ydd Hydref ac un ar 10fed Hydref. Nid oes rhaid mynychu'r ddau ddyddiad.
Dewiswch y dyddiad sydd orau i chi.
Rhan Dau:
🚀 Nod a chanlyniadau dysgu'r cwrs llawn:
Nod y cwrs yw darparu gwybodaeth a sgiliau i'r cyfranogwyr fel y gallant gynllunio gwasanaethau digidol sydd yn canolbwyntio ar y person a'u hysbrydoli i gymryd mantais o ddulliau digidol er mwyn mwyhau effaith cymdeithasol. Yn ystod y cwrs yma, bydd cyfranogwyr yn:
Cael cyfle i ddatrys her go iawn sydd yn wynebu eu sefydliad
Rhoi amser a gofod i brofi syniadau a dulliau newydd
Dysgu pethau newydd am ddefnyddwyr y gwasanaeth a'u hanghenion
Derbyn mentora ac arweiniad gan arbenigwyr digidol
Dysgu sut i ddatblygu gwasanaethau digidol sydd yn canolbwyntio ar y person gan ddefnyddio methodoleg Cynllunio Gwasanaeth
Arbrofi gydag offer adnoddau digidol newydd
Anogir i chi ymuno â'r cwrs yma gydag aelod o'ch tîm 😊
Diolch yn Fawr!
Mae'r cwrs yma yn rhad ac am ddim i Sefydliadau'r Trydydd Sector yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r cwrs yma trwy'r rhaglen Newid. Mae Newid yn rhaglen cefnogaeth a datblygiad sgiliau digidol ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo-Cymru, Cwmpas (Canolfan Cydweithredol Cymru gynt) a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.