Cover Image for Training skills | 11, 12.03 & 03.04.25 | Sgiliau hyfforddi
Cover Image for Training skills | 11, 12.03 & 03.04.25 | Sgiliau hyfforddi
Private Event

Training skills | 11, 12.03 & 03.04.25 | Sgiliau hyfforddi

Registration Closed
This event is not currently taking registrations. You may contact the host or subscribe to receive updates.
About Event

Sgiliau hyfforddi

11, 12 Mawrth, 3 Ebrill 2025 | 9.30 am – 4 pm | Caerdydd

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

Amcanion

Rhoi gwybodaeth, sgiliau a hyder i chi gynllunio, paratoi a chyflwyno sesiynau hyfforddi.

Wedi'i achredu gan Agored Cymru, lefel tri, chwe chredyd.

Cynnwys

Oes yna bwnc y byddech wrth eich bodd yn ei ddysgu i eraill, ond rydych yn brin o hyder? Neu efallai'ch bod yn mwynhau rhannu'ch gwybodaeth ond am sicrhau'ch bod yn gwneud hynny mewn ffordd sydd wir yn ennyn diddordeb pobl.

Bydd y cwrs tridiau hwn, sydd wedi'i achredu, yn rhoi trosolwg i chi o ddamcaniaeth dysgu, yn rhannu dulliau cynllunio ar gyfer cyflwyno a gwerthuso hyfforddiant, ac yn eich helpu i ddatblygu eich hyder i ddylunio a chyflwyno sesiynau hyfforddi.

I ennill yr achrediad bydd angen i chi ymrwymo rhywfaint o amser i gwblhau'r asesiad ysgrifenedig ac i baratoi sesiwn hyfforddi, y byddwch yn cyflwyno rhan ohoni o flaen cyfranogwyr eraill y cwrs ar y trydydd diwrnod.

Dyma un o'n cyrsiau mwyaf poblogaidd, a gyflwynir gan ein hyfforddwyr profiadol a fydd yn rhoi cefnogaeth i chi yn ystod y broses asesu - archebwch yn gynnar i sicrhau'ch lle.

Canlyniadau dysgu

Ar ôl mynychu'r cwrs hwn a chwblhau'r gwaith asesu, byddwch yn:

  • Deall sut i gysylltu hyfforddiant ag anghenion y dysgwyr

  • Gallu nodi nod, amcanion a chanlyniadau dysgu ar gyfer targedau y cytunwyd arnynt

  • Gallu cynllunio, dylunio a chyflwyno sesiwn hyfforddi gan ddefnyddio dulliau hyfforddi priodol

  • Deall sut i ymgysylltu â dysgwyr

  • Deall sut i reoli amgylchedd dysgu yn effeithiol

  • Gallu monitro cynnydd dysgwyr a gwerthuso hyfforddiant

  • Gallu adlewyrchu ar eich arferion hyfforddi eich hun

Ar gyfer pwy mae'r cwrs

Mae'r cwrs hwn ar gyfer y rheini sy'n newydd i'r byd hyfforddi a/neu efallai sydd wedi ymgymryd â rôl hyfforddi yn eu mudiad am y tro cyntaf

Rhagor o wybodaeth

Codir ffi cofrestru o £21 y pen ar y rheini sy'n cofrestru i gwblhau'r asesiad Agored Cymru.

------------------------------------

Training skills

11, 12 March & 3 April 2025 | 9.30 am – 4 pm | Cardiff

Delivered through the medium of English

Aims

To provide you with the knowledge, skills and confidence to plan, prepare and deliver training sessions. 

Accredited by Agored Cymru, level three, six credits.

Content

Do you have a topic that you'd love to teach, but are lacking confidence? Or maybe you love sharing your knowledge but want to make sure you're doing it in way that really engages people.

This three-day accredited course will give you an overview of learning theory, share planning tools for delivering and evaluating training, and help you develop your confidence in designing and delivering training sessions.

To gain the accreditation you will need to commit some time to complete the written assessment and to prepare a training session, a section of which you will deliver in front of other course participants on the third day.

This is one of our most popular courses, delivered by our experienced trainers who will provide support for you during the assessment process - book early to secure your place.

Learning outcomes

By attending this course and completing the assessment work, you will: 

  • Understand how to relate training to the needs of learners

  • Be able to identify aims, objectives and learning outcomes in relation to agreed goals

  • Be able to plan, design and deliver a training session using appropriate training methods

  • Understand how to engage with learners

  • Understand how to effectively manage a learning environment

  • Be able to monitor learners' progression and evaluate training

  • Be able to reflect on your own training practice

Who this course is for

This course is for those who are new to training and/or may have taken on the role of trainer in their organisation for the first time.

Additional information

A registration fee of £21 per learner will be charged for those who register to complete the Agored Cymru assessment.

Location
One Canal Parade, Dumballs Rd
Cardiff CF10 5BF, UK