Using AI to support content creation | Defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i helpu i greu cynnwys
Defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i helpu i greu cynnwys
16 Hydref 2024
10 am - 12 pm | Ar-lein
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Amcanion
Rhoi’r wybodaeth a’r hyder i chi ddefnyddio AI i’ch helpu i greu cynnwys yn llwyddiannus ac yn effeithiol.
Cynnwys
Gall AI helpu eich mudiad i greu cynnwys yn gyflymach a dod o hyd i ffyrdd newydd o gyfathrebu â’ch cynulleidfaoedd. Bydd y sesiwn hon yn cynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o alluoedd a buddion posibl offer AI fel Chat GPT a Dall-E, a sut gellir eu defnyddio o fewn cyd-destun eich mudiad a chyfathrebiadau digidol.
Canlyniadau dysgu
•Sut i ddefnyddio offer AI i’ch helpu i greu cynnwys yn gyflymach
•Awgrymiadau ar ysgrifennu pwyntiau procio AI
•Ffyrdd o greu cynnwys deniadol gan ddefnyddio offer AI
•Ystyriaethau moesegol a chyfreithiol wrth ddechrau gydag AI
•Y prif gamgymeriadau y gallai mudiadau gwirfoddol eu gwneud, a sut i’w hosgoi.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Os ydych chi’n gyfrifol am gyfryngau cymdeithasol eich mudiad ac eisiau creu cynnwys yn gyflymach neu ddysgu am dechnegau cyffrous newydd, yna mae’r hyfforddiant hwn i chi.
Ynglŷn â’r hyfforddwr
Bydd y sesiwn yn cael ei ddarparu gan Media Trust. Ym Media Trust, rydym ni’n credu mai trwy roi llais i bawb y cawn ni gymdeithas fwy cyfartal. Dyna pam rydym yn gweithio gyda channoedd o elusennau i gryfhau eu sgiliau adrodd stori, eirioli ac ymgyrchu, a’u gallu i ymgysylltu ac ymdrin â chyfryngau cymdeithasol.
Mae Andrew Davis yn adnabyddus am gyflwyno hyfforddiant ymarferol ac ysbrydoledig ar gyfathrebiadau digidol, ac wedi gweithio gyda Media Trust am 10 mlynedd i adeiladu sgiliau cyfathrebu digidol, uchelgeisiau a hyder sector elusennol y DU. Mae gyrfa ddigidol Andrew yn cwmpasu mwy nag 20 mlynedd. Ar ôl gweithio fel safonwr ystafell sgwrsio ar Pop Idol a chyda Chlwb Pêl-droed Lerpwl, Bu Andrew yn gynhyrchydd yr orsaf ddigidol, BBC Radio 1Xtra. Aeth ymlaen wedyn i fod yn Rheolwr Myspace.com, lle yr helpodd i lansio ei isadran Marchnata a Chynnwys yn y DU cyn dechrau hyfforddi ac ymgynghori.
Mae’r hyfforddiant yma wedi’i drefnu fel rhan o Brosiect Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector ProMo-Cymru
UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Using AI to support content creation
16 October 2024
10 am - 12 pm | Online
Delivered through the medium of English
Aims
To equip you with the knowledge and confidence to use AI to support your content creation successfully and effectively.
Content
AI can help your organisation speed up your content creation and find new ways to communicate with your audiences. This training session offers a comprehensive understanding of the capabilities and potential benefits of AI tools such as Chat GPT and Dall-E, and how they can be applied within the context of your organisation and digital communications.
Learning outcomes
How to use AI tools to speed up your content creation
Tips on writing effective AI prompts
Ways to create eye-catching content using AI tools
The ethical and legal considerations when getting started with AI
Top mistakes voluntary organisations could make, and how to avoid them
Who this course is for
If you are responsible for your organisations social media and looking to speed up your content creation or learn about new exciting techniques then this training is for you.
About the Trainer
This session is delivered by Media Trust. At Media Trust, we believe it’s by giving everyone a voice that we’ll get to a more equal society. That’s why we’re working with hundreds of charities to strengthen their storytelling, advocacy and campaigning, press engagement and social media.
Andrew Davis is renowned for delivering engaging, practical and inspirational digital comms training, working with Media Trust for 10 years to build the UK charity sectors digital comms skills, ambitions and confidence.
Andrew’s digital career spans over 20 years. After working as a chatroom moderator on Pop Idol and Liverpool Football Club, Andrew served as producer for the digital station BBC Radio 1Xtra. He then went on to be a Manager for Myspace.com, where he helped launch its UK Marketing and Content division before he started training and consulting.
MAXIMUM of two places per organisation