Cover Image for Deallusrwydd Artiffisial ac Awtomeiddio ar gyfer Cynnydd Effeithiolrwydd
Cover Image for Deallusrwydd Artiffisial ac Awtomeiddio ar gyfer Cynnydd Effeithiolrwydd
Hosted By

Deallusrwydd Artiffisial ac Awtomeiddio ar gyfer Cynnydd Effeithiolrwydd

Hosted by ProMo Cymru
Zoom
Registration
No Upcoming Sessions
This series has no upcoming sessions scheduled. Heard something is coming? Check back later!
About Event

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Mae gennym gyfle cyffrous i 10 sefydliad trydydd sector Cymru i ymuno â ni ar her cynllunio i archwilio sut y gall Deallusrwydd Artiffisial (AI) ac Awtomeiddio helpu eich sefydliad i arbed amser.

Byddem yn eich cefnogi i ymchwilio, profi a gwerthuso sut gall yr adnoddau arbed amser yma eich buddio chi.

 

Dros yr 8 wythnos, bydd angen cadw tri dyddiad yn rhydd yn eich calendr.

Mae yna tri gweithdy (dau ar-lein ac un wyneb i wyneb). Rhwng y gweithdai yma byddem yn eich arwain trwy gyfres o weithgareddau gallech chi eu cwblhau yn eich amser chi. Rydym yn argymell i chi ganiatáu 2-3 awr yr wythnos ar gyfer y cwrs.

Byddech chi hefyd yn cael 2 (neu fwy os hoffech) cyfarfod mentor awr o hyd gyda'r hyfforddwyr i sicrhau eich bod chi ar y trywydd cywir ac i'ch cefnogi gyda'r prosiect.

Fformat y cwrs:

 Gweminar Cyflwyno, 24ain Ionawr, 10yb - 1yp, ar-lein

Mae'r cwrs yn digwydd dros 8 wythnos, gan gychwyn gyda gweminar hanner diwrnod ble bydd cyflwyniad i'r fethodoleg cynllunio gwasanaeth, sut mae'r broses yn edrych, a sut i ddeall eich anghenion digidol yn well. 

Cyfnod Darganfod:

Cewch bedair wythnos i gwblhau darn o ymchwil darganfod yn canolbwyntio ar ddeall ble gallech chi arbed amser. Awgrymir i chi ganiatáu 2-3 awr yr wythnos i gwblhau'r ymchwil yma.

Gweithdy cynllunio wyneb i wyneb, 21ain Chwefror, 9:30yb - 4:30yp, Gogledd Cymru

Yn y gweithdy wyneb i wyneb rhyngweithiol yma, byddech yn cael eich tywys trwy weithgareddau i ddiffinio maes i ganolbwyntio arno ac archwilio ffyrdd y gall AI ac awtomeiddio arbed amser i chi. Byddech yn llunio cynllun o sut yr ewch ati i brofi eich syniad arbed amser a chasglu'r canlyniadau.

Byddem yn ad-dalu costau teithio. 

Cyfnod profi:

Cewch pedair wythnos i brofi eich datrysiad a chasglu canlyniadau.

Sesiwn cloi, 20fed Mawrth, 10yb - 12yp, ar-lein

Ar ddiwedd yr 8 wythnos, byddech yn mynychu gweminar cloi i roi adborth ar eich prosiect a'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu. Mae'n gyfle hefyd i ddysgu o brofiadau'r sefydliadau eraill ar y cwrs. 

Mentora 1-1: Byddech yn derbyn cymorth, arweiniad a mentora dros yr 8 wythnos.

 

🚀 Nodau a chanlyniadau dysgu'r cwrs:

Nod y cwrs yw darparu gwybodaeth a sgiliau i'r cyfranogwyr fel y gallant gynllunio gwasanaethau digidol sydd yn canolbwyntio ar y person a'u hysbrydoli i gymryd mantais o ddulliau digidol i arbed amser a macsimeiddio'r effaith gymdeithasol.

Yn ystod y cwrs, bydd cyfranogwyr yn:

  • Cael cyfle i ddatrys her go iawn mae eu sefydliad yn wynebu

  • Neilltuo amser a gofod i brofi ffyrdd newydd o weithio

  • Dysgu pethau newydd am eu heriau a'u hanghenion sefydliadol

  • Derbyn mentora ac arweiniad gan arbenigwyr digidol

  • Dysgu sut i weithredu adnoddau digidol yn effeithiol, gan ddilyn y broses Cynllunio Gwasanaeth

  • Arbrofi gydag adnoddau digidol newydd

 

Anogir dau berson o bob sefydliad i fynychu'r cwrs (er nad yw'n hanfodol). Mae angen i bob person gofrestru'n unigol.

 Diolch yn fawr.

 

Cynigir y cwrs yma am ddim i sefydliadau trydydd sector yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyllido hwyluso'r cwrs trwy Newid. Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo Cymru, Cwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

Hosted By