
Gweithio’n fwy effeithlon gydag adnoddau digidol | Work more efficiently with digital tools - Sesiwn Gymraeg
Please Scroll for English
Amcanion
Mae’r sesiwn hon yn edrych ar amrywiaeth o adnoddau digidol sydd wedi’u dylunio i symleiddio prosesau gwaith a’ch helpu chi i weithio’n fwy effeithlon. Trwy arddangosiadau ymarferol, byddwn yn edrych ar sut mae’r adnoddau hyn yn gweithio ac yn rhannu awgrymiadau a syniadau ar sut i’w hintegreiddio yn eich gwaith bob dydd er mwyn arbed amser i chi.
Cynnwys
Deall eich llif gwaith a sut mae prosesau digidol yn rhan o hwnnw.
Sut gall adnoddau digidol symleiddio tasgau, gan wella effeithlonrwydd a chydweithio.
Cyflwyniad ymarferol i brif nodweddion a swyddogaethau adnoddau digidol poblogaidd a sut gallwch eu defnyddio yn eich gweithle.
Bydd yr adnoddau a ddefnyddir yn y sesiwn hon yn cynnwys:
Microsoft Sharepoint, Microsoft Planner a ToDo, Power Automate ac eraill.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Mae’r cwrs hwn i staff y sector gwirfoddol neu wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn dysgu sut gall adnoddau digidol gwahanol gefnogi eu gwaith. Mae’r cwrs hwn yn arbennig o addas i bobl sydd:
Yn defnyddio Microsoft 365 yn eu gweithle.
Yn defnyddio adnoddau digidol yn eu gwaith bob dydd – fel e-bost, cyfarfodydd rhithwir a meddalwedd swyddfa.
 diddordeb mewn edrych ar, a dysgu am adnoddau a thechnolegau digidol
Ag ychydig o brofiad o brosesau sy’n ymwneud â’r gwaith, waeth pa mor sylfaenol yw’r profiad hwnnw.
Efallai eich bod yn gofyn rhai o’r cwestiynau canlynol:
A oes ffordd gyflymach o wneud tasgau gweinyddol?
Sut gall fy nhîm gwblhau tasgau’n well gyda’i gilydd?
A oes ffyrdd y gallwn ni awtomeiddio tasgau arferol?
Os nad ydych chi’n siŵr a yw’r cwrs hwn ar y lefel gywir i chi, cysylltwch â digidol@wcva.cymru
Ymunwch â’r sesiwn hyfforddi hon ar liniadur neu gyfrifiadur personol oherwydd bydd cyfle i brofi’r adnoddau yn y sesiwn.
Yr hyfforddwr
Cyflwynir yr hyfforddiant gan Big Learning Company, Mae’r hyfforddiant yma yn rhan o Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector.
Cyflwynir y sesiwn hon yn Gymraeg. Mae’r sesiwn Saesneg yma.
Aim
This session explores a range of digital tools designed to streamline work processes and help you work more efficiently. Through hands on demonstrations, we’ll take a look at how these tools work and share tips and ideas for integrating them into your day to day work, helping you save time.
Content
Understanding your workflow and how digital processes fit in.
How digital tools can streamline tasks improving efficiency and collaboration.
A practical introduction to key features and functionalities of popular digital tools and how you can use them in your workplace.
Tools Used in This Session Include:
Microsoft Sharepoint, Microsoft Planner & ToDo, Power Automate, and others.
Who is this course for?
This course is for voluntary sector staff or volunteers who are interested in learning how different digital tools can support their work. This course is most suitable for people who:
Use Microsoft 365 in their workplace.
Use digital tools in their day to day work – like email, virtual meetings and office software.
Interested in exploring and learning about digital tools and technologies
Have some experience of work-related processes, even at a basic level.
Some questions you might be asking are:
Is there a faster way to do administrative tasks?
How can my team complete tasks together better?
Are there ways we can automate routine tasks?
If you’re unsure whether this course is pitched at the right level for you, please contact digital@wcva.cymru
Please join this training session on a laptop or PC as there will be an opportunity to test out the tools in the session.
The Trainer
This training is delivered by Big Learning Companyand is part of Newid: Digital for the Third Sector.
This session is given in Welsh. Find the English session here.
