Cover Image for Strategaeth Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar gyfer y Trydydd Sector: Symud y Tu Hwnt i’r Offer
Cover Image for Strategaeth Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar gyfer y Trydydd Sector: Symud y Tu Hwnt i’r Offer
Hosted By

Strategaeth Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar gyfer y Trydydd Sector: Symud y Tu Hwnt i’r Offer

Hosted by ProMo Cymru
Zoom
Registration
Approval Required
Your registration is subject to approval by the host.
Welcome! To join the event, please register below.
About Event

Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn ar-lein hon, sy’n rhad ac am ddim i’w mynychu, i archwilio’r modd y gall arweinwyr y trydydd sector symud y tu hwnt i ddefnydd beunyddiol o Ddeallusrwydd Artiffisial a dechrau meddwl yn fwy strategol ynglŷn â’r modd y mae Deallusrwydd Artiffisial yn rhan o ddyfodol eu sefydliad. 

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl 

  • Cyflwyniad gan arweinydd byd-eang mewn Deallusrwydd Artiffisial cyfrifol, Dr Irina Mirkina 

  • Cyflwyniad gan Bennaeth Digidol ProMo Cymru, Arielle Tye

  • Sesiwn Holi ac Ateb lle gallwch ofyn cwestiynau 

  • Cyfle i drafod heriau, risgiau a’r pethau sy’n gweithio yn eich sefydliad 

Pam Deallusrwydd Artiffisial? 

Yn ôl Adroddiad Sgiliau Digidol Elusennau 2025

  • Mae 76% o elusennau bellach yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial, ond dim ond 2% sy’n gwneud hynny’n strategol 

  • Dywed 35% fod gan eu timau sgiliau gwael mewn perthynas â Deallusrwydd Artiffisial a dywed 36% yr un peth am eu Prif Swyddogion Gweithredol 

  • Dim ond 22% sydd wedi cymryd camau i ddatblygu strategaeth Deallusrwydd Artiffisial 

Pwrpas y sesiwn hon yw eich helpu i symud oddi wrth arbrofi tuag at arwain. Byddwn yn canolbwyntio ar y pethau y byddwch angen eu gwybod ar lefel arwain a sut i ddechrau arni. 

Ynglŷn â’r siaradwr: Dr Irina Mirkina 

Mae Dr Irina Mirkina yn arbenigwr byd-eang arweiniol mewn meysydd yn ymwneud â moeseg a strategaethau Deallusrwydd Artiffisial. Mae wedi gweithio gyda’r Cenhedloedd Unedig, Banc y Byd a llywodraethau rhyngwladol, gan helpu sefydliadau i ddeall sut i ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn gyfrifol. 

Ynglŷn â’r siaradwr: Arielle Tye

Bydd Arielle Tye, Pennaeth Digidol ProMo Cymru, yn rhannu adnoddau ymarferol i gefnogi llywodraethu Deallusrwydd Artiffisial ac yn tynnu sylw at hyfforddiant a chyfleoedd yng Nghymru i helpu sefydliadau'r trydydd sector i roi strategaeth ar waith yn gyfrifol.

Sesiynau Digidol Newid 

Mae’r sesiwn hon yn rhan o’n cyfres o ddigwyddiadau newydd a elwir yn ‘Sesiynau Digidol Newid’ a luniwyd ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru er mwyn rhannu pethau a ddysgwyd a chynnal trafodaethau gonest. I gael rhagor o wybodaeth am y sesiwn nesaf, cofrestrwch ar gyfer Cylchlythyr Newid

Beth ydy Newid? 

Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo CymruCwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

Hosted By