

Strategaeth Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar gyfer y Trydydd Sector: Symud y Tu Hwnt i’r Offer
Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn ar-lein hon, sy’n rhad ac am ddim i’w mynychu, i archwilio’r modd y gall arweinwyr y trydydd sector symud y tu hwnt i ddefnydd beunyddiol o Ddeallusrwydd Artiffisial a dechrau meddwl yn fwy strategol ynglŷn â’r modd y mae Deallusrwydd Artiffisial yn rhan o ddyfodol eu sefydliad.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl
Cyflwyniad gan arweinydd byd-eang mewn Deallusrwydd Artiffisial cyfrifol, Dr Irina Mirkina
Cyflwyniad gan Bennaeth Digidol ProMo Cymru, Arielle Tye
Sesiwn Holi ac Ateb lle gallwch ofyn cwestiynau
Cyfle i drafod heriau, risgiau a’r pethau sy’n gweithio yn eich sefydliad
Pam Deallusrwydd Artiffisial?
Yn ôl Adroddiad Sgiliau Digidol Elusennau 2025:
Mae 76% o elusennau bellach yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial, ond dim ond 2% sy’n gwneud hynny’n strategol
Dywed 35% fod gan eu timau sgiliau gwael mewn perthynas â Deallusrwydd Artiffisial a dywed 36% yr un peth am eu Prif Swyddogion Gweithredol
Dim ond 22% sydd wedi cymryd camau i ddatblygu strategaeth Deallusrwydd Artiffisial
Pwrpas y sesiwn hon yw eich helpu i symud oddi wrth arbrofi tuag at arwain. Byddwn yn canolbwyntio ar y pethau y byddwch angen eu gwybod ar lefel arwain a sut i ddechrau arni.
Ynglŷn â’r siaradwr: Dr Irina Mirkina
Mae Dr Irina Mirkina yn arbenigwr byd-eang arweiniol mewn meysydd yn ymwneud â moeseg a strategaethau Deallusrwydd Artiffisial. Mae wedi gweithio gyda’r Cenhedloedd Unedig, Banc y Byd a llywodraethau rhyngwladol, gan helpu sefydliadau i ddeall sut i ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn gyfrifol.
Ynglŷn â’r siaradwr: Arielle Tye
Bydd Arielle Tye, Pennaeth Digidol ProMo Cymru, yn rhannu adnoddau ymarferol i gefnogi llywodraethu Deallusrwydd Artiffisial ac yn tynnu sylw at hyfforddiant a chyfleoedd yng Nghymru i helpu sefydliadau'r trydydd sector i roi strategaeth ar waith yn gyfrifol.
Sesiynau Digidol Newid
Mae’r sesiwn hon yn rhan o’n cyfres o ddigwyddiadau newydd a elwir yn ‘Sesiynau Digidol Newid’ a luniwyd ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru er mwyn rhannu pethau a ddysgwyd a chynnal trafodaethau gonest. I gael rhagor o wybodaeth am y sesiwn nesaf, cofrestrwch ar gyfer Cylchlythyr Newid.
Beth ydy Newid?
Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo Cymru, Cwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.