Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu - Young People Are Thriving
English below
GWEMINAR - Sefydlu strwythur llywodraethu a gaiff ei arwain gan bobl ifanc ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Cyflwynir y gweminar yma gan y Grŵp Cyfranogiad Gweithredu Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu, un o bum grŵp sefydlwyd i gefnogi gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.
Un o brif argymhellion yr adroddiad Mae'n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru oedd i "Sefydlu strwythur llywodraethu dan arweiniad pobl ifanc ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru". Rydym yn awyddus i ddarganfod mwy am y pethau da sydd yn digwydd ledled Cymru fel y gall hysbysu datblygiad yr argymhelliad yma, ac agweddau eraill o'n gwaith.
Byddem yn rhannu'r gwaith sydd yn digwydd ar lefel cenedlaethol yn y gweminar yma, llawer ohono yn newydd ac yn dod i'r amlwg. Byddem yn trafod yr egwyddorion hanfodol a'r camau nesaf, er mwyn sicrhau strwythur llywodraethu a gaiff ei arwain gan ieuenctid sydd yn caniatáu i bobl ifanc lunio gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Rydym eisiau i bobl ifanc chwarae rhan ystyrlon ymhob penderfyniad fydd yn cael effaith arnynt. Rhennir esiamplau o ymarfer gorau yn ystod y gweminar, ac rydym yn awyddus i gasglu tystiolaeth bellach i fwydo i'r gwaith yma i gryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid. Bydd y wybodaeth sydd yn cael ei gasglu yn y sesiwn yma hefyd yn cael ei ymgorffori yn y gwaith cwmpasu ar gyfer y posibilrwydd o gorff cenedlaethol gwaith ieuenctid, ble rydym yn awyddus i sicrhau bod pobl ifanc nid yn unig yn cymryd rhan, ond bod ganddynt rannau penodol i'w chwarae.
Mae'r cyflwynwyr yn cynnwys:
David Williams, Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen - Cadeirydd GCG Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu
Sharon Lovell - Cadeirydd y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.
Dyfan Evans, Llywodraeth Cymru
Panel Ymgynghorol Ieuenctid Merthyr: 'Nadroedd 'N' Ysgolion' - Y Pandemig Arall
Rebekah Burns, Ambiwlans Sant Ioan
Victoria Allen, Llywodraeth Cymru
Bydd ail ran y gweminar yn cynnwys gweithdai mewn grwpiau llai i drafod y canlynol:
Sut mae Llywodraethu Ieuenctid da a drwg yn edrych yn eich barn chi?
Beth allem ni ei ddysgu o ymarfer da blaenorol sydd efallai ddim yn digwydd ar hyn o bryd?
Pa enghreifftiau o lywodraethu ieuenctid sydd gennym nawr?
Pa brif egwyddorion arweiniol ydym ni eisiau ymgorffori, a sut?
Beth yw rhai o'r rhwystrau posib?
Croesawir y bobl sydd yn ymwneud â gwaith ieuenctid yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn dysgu mwy a chyfrannu i'r drafodaeth yma. Cofrestrwch heddiw.
Bydd cyfieithu ar y pryd o Gymraeg i Saesneg a BSL ar gael ar y dydd.
-------------
WEBINAR - Establishing a young people led governance structure for youth work in Wales.
This webinar is presented by the Young People are Thriving Implementation Participation Group, one of five groups established to support the work of the Youth Work Strategy Implementation Board.
One of the key recommendations within the 'Time to deliver for young people in Wales' report was "to establish a young people led governance structure for youth work in Wales". We want to better understand the good things that are happening across Wales and help inform how this recommendation, and other aspects of our work, are developed.
In this webinar, we will share some of the work happening at a national level, much of which is new and emerging. We will discuss the vital principles and next steps to ensure a youth-led governance structure that enables young people to shape youth work services in Wales.
We want young people to have meaningful involvement at all stages of decision making which will affect them. Examples of best practice will be shared during the webinar, and we want to gather further evidence to feed into our work to strengthen the legislative basis for youth work. Information gathered as part of this session will also be incorporated into the scoping work for a potential national body for youth work, where we want to ensure young people are not just involved but would have specific roles to play.
Presenters include:
David Williams, Torfaen Youth Service - Chair of the Young People are Thriving IPG
Sharon Lovell - Chair of the Youth Work Strategy Implementation Board
Dyfan Evans, Welsh Government
Merthyr Youth Advisory Panel: Snakes 'n' Ladders - The Other Pandemic
Rebekah Burns, St John Ambulance
Victoria Allen, Welsh Government
The second part of the webinar will include break-out workshops where we will discuss the following:
What does good and bad Youth Governance look like to you?
What can we learn from previous good practice that may not be currently happening?
What examples of youth governance do we have now?
What key guiding principles do we want to embed, and how?
What are some of the potential barriers?
We welcome those involved in youth work in Wales who are interested in learning more and contributing to this discussion. Sign up free today.
Welsh to English and BSL interpretation will be available on the day.