Cyllid ar Gyfer Ymddiriedolwyr / Finance for Trustees
Agorwch y drws ar yr arbenigedd ariannol y mae ymddiriedolydd ei angen gyda’r cwrs hwn sy’n anelu at gael gwared â dirgelion cyllid elusennau!
Hyd yn oed os oes gan eich elusen arbenigydd ariannol yn barod, mae pob ymddiriedolydd yn gyfrifol am oruchwylio sefyllfa ariannol y mudiad. Golyga hynny fod angen i bob ymddiriedolydd ddeall materion ariannol, cymryd rhan mewn adolygiadau cyllidebol, a chymeradwyo adroddiadau ariannol. Mae dod o hyd i’ch ffordd trwy faterion ariannol yr elusen yn gallu swnio’n anodd, o gofio’r agweddau cyfrifo unigryw. Mae ein cwrs yn torri’r cyfan i lawr yn ddarnau hylaw, gan sicrhau eich bod yn cael gafael ar yr hanfodion i sicrhau bod eich mudiad yn parhau i weithredu’n effeithiol.
Fe gewch olwg ar faterion ariannol elusen, o fantolenni a chyllidebau i gyfrifon rheoli, llif arian, a chyfrifon blynyddol. Mae’r cwrs hwn yn anelu at eich grymuso gyda’r wybodaeth a’r hyder i reoli cyllid eich elusen, hyd yn oed os nad oes gennych fawr ddim profiad blaenorol os o gwbl.
Unlock the financial savvy every trustee needs with this course designed to demystify charity finances!
Even if your charity has a financial expert on board, every trustee is responsible for overseeing the organisation’s funds. This means every trustee needs to understand finances, take part in budget reviews, and approve financial reports. Navigating charity finances can seem daunting, with its unique accounting aspects. Our course breaks it down into manageable parts, ensuring you grasp the essentials needed to ensure your organisation's effective operation.
Dive into the basics of charity finance, from balance sheets and budgets to management accounts, cash flow, and annual accounts. This course is designed to empower you with the knowledge and confidence to manage your charity’s finances, even if you have little to no prior experience.